{"id":216,"date":"2019-10-29T17:34:44","date_gmt":"2019-10-29T17:34:44","guid":{"rendered":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/?page_id=216"},"modified":"2020-12-16T12:15:59","modified_gmt":"2020-12-16T12:15:59","slug":"frequently-asked-questions","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/frequently-asked-questions\/","title":{"rendered":"Cwestiynau Cyffredin"},"content":{"rendered":"\n<h4 class=\"h4\"><strong>Pwy sy\u2019n gwneud i\u2019r prosiect yma ddigwydd?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn cael ei redeg gan y fenter hwyluso diwylliannol Coleridge in Wales Cyf a gafodd ei sefydlu gan y canwr Richard Parry. Mae ganddyn nhw brofiad eang o drefnu digwyddiadau a phrosiectau dan arweiniad y gymuned gan gynnwys G\u0175yl 80 diwrnod Coleridge yng Nghymru yn 2016, a chynhyrchu sioe agoriadol <a href=\"https:\/\/youtu.be\/zguGzdI0yjI\">Carnifal y M\u00f4r<\/a> ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol \u00e2 Chaerdydd yn 2018.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Coleridge in Wales yn gweithio mewn partneriaeth ag\nEsgobaeth Llandaf yn Ne Cymru i wahodd pob cymuned i ymuno mewn darganfod y\ntirweddau ffydd. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Sut mae\u2019r prosiect yn cael ei ariannu?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yma\u2019n cael ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Gwledig \u2013 Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng Croeso Cymru yn ogystal \u00e2 grant oddi wrth yr Allchurches Trust.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Beth fydd yn digwydd? <\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n eich gwahodd chi i gymryd rhan mewn helfa drysor gymunedol i ddatguddio a dathlu\u2019r tirweddau ffydd, ac yn 2021 byddwn ni\u2019n lansio gwefan newydd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol a chymunedau lleol er mwyn i bawb gael fforio a darganfod y dreftadaeth anhygoel sydd o\u2019n cwmpas. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Ai dim ond De Cymru sydd dan sylw?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n dechrau yma yn Ne Cymru, ac os\nydych chi\u2019n byw yn y De bydden ni wrth ein bodd i chi ddilyn y prosiect a\nchymryd rhan.\n\n\n\nOnd mae gan weddill Cymru drysorau bendigedig a\nhanfodol bwysig yn y dirwedd ffydd hefyd a\u2019n gobaith yw cynnal mwy o helfeydd\ntrysor cymunedol cyn bo hir, yng Nghymru ac o amgylch y byd\n\n\n\n<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Oes rhaid i ni dalu i gymryd rhan?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Nac oes. Nid yw\u2019n costio dim i gymryd rhan. Bydd y rhan fwyaf o   ddigwyddiadau, teithiau cerdded, sesiynau galw heibio, a fforiadau\u2019n rhad ac am ddim. Efallai y bydd cyngherddau achlysurol sydd \u00e2 thaliadau mynediad bach am docynnau ond bydd y rhain yn gost-isel ac yn hwylus. Y syniad yw cynnwys cynifer o bobl \u00e2 phosibl, ac nid oes unrhyw d\u00e2l   am y mwyafrif o ddigwyddiadau a gweithgareddau.   &nbsp;   <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Gawn ni awgrymu ein digwyddiad ni?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Cewch! Bydden ni wrth ein bodd i gynnal rhyw fath o ddigwyddiad, taith gerdded, cyngerdd, cyfarfod neu weithgaredd sy\u2019n dathlu\u2019ch tirwedd ffydd leol chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn ni\u2019n dod atoch chi, yn dweud wrthych chi am y prosiect, yn gwrando ac yn dysgu a\u2019ch helpu chi i drosi\u2019ch tirwedd leol yn helfa drysor, er mwyn i bobl eraill gael dod i ble rydych chi\u2019n byw a\u2019i darganfod hi. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Sut mae cysylltu \u00e2 chi?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Ysgrifennwch aton ni drwy\u2019r ffurflen gysylltu yma neu anfonwch e-bost aton ni yn <a href=\"mailto:sayhello@landscapesoffaith.org\">sayhello@landscapesoffaith.org<\/a> <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"h4\"><strong>Ydy unrhyw un yn cael dod i ddigwyddiadau?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Ydy, dyna\u2019r syniad cyffredinol. Mae croeso i bawb ar yr helfa drysor!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pwy sy\u2019n gwneud i\u2019r prosiect yma ddigwydd? Mae\u2019r prosiect yn cael ei redeg gan y fenter hwyluso diwylliannol Coleridge in Wales Cyf a gafodd ei sefydlu gan y canwr Richard Parry. Mae ganddyn nhw brofiad eang o drefnu digwyddiadau a phrosiectau dan arweiniad y gymuned gan gynnwys G\u0175yl 80 diwrnod Coleridge yng Nghymru yn 2016,<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216"}],"collection":[{"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=216"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":853,"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/216\/revisions\/853"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/lofw.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=216"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}